Elusen Ogwen
Mae Elusen Ogwen yn cefnogi cynlluniau fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau Nyffryn Ogwen. Mae'n gwneud hynny drwy ddosbarthu elw o gynlluniau ynni Ynni Ogwen.
Mae ein prif wefan wedi symud i www.elusenogwen.cymru, lle gallwch ddod o hyd i fanylion ein grantiau, a sut i wneud cais.
Mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am gefnogaeth o hyd at £3,000 gan Elusen Ogwen i brosiectau fydd yn creu budd i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae’r Elusen yn medru cyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sy’n gwneud y canlynol:
- Lleihau tlodi tanwydd
- Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
- Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
- Arbed ynni
- Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
- Lleihau gwastraff
- Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
- Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol
Manylion
11/11/24